Chwilio ffurf

Genesis 3

Anufudd-dod Dyn 1 Yr oedd y sarff yn fwy cyfrwys na'r holl fwystfilod gwyllt a wnaed gan yr ARGLWYDD Dduw. A dywedodd wrth y wraig, «A yw Duw yn wir wedi dweud, ‹Ni chewch fwyta o'r un o goed yr ardd'?» 2 Dywedodd y wraig wrth y sarff, «Cawn fwyta o ffrwyth coed yr ardd, 3 ond am ffrwyth y goeden sydd yng nghanol yr ardd dywedodd Duw, ‹Peidiwch â bwyta ohono, na chyffwrdd ag ef, rhag ichwi farw.› » 4 Ond dywedodd y sarff wrth y wraig, «Na! ni fyddwch farw; 5 ond fe ŵyr Duw yr agorir eich llygaid y dydd y bwytewch ohono, a byddwch fel Duw yn gwybod da a drwg.» 6 A phan ddeallodd y wraig fod y pren yn dda i fwyta ohono, a'i fod yn deg i'r golwg ac yn bren i'w ddymuno i beri doethineb, cymerodd o'i ffrwyth a'i fwyta, a'i roi hefyd i'w gŵr oedd gyda hi, a bwytaodd yntau. 7 Yna agorwyd eu llygaid hwy ill dau i wybod eu bod yn noeth, a gwnïasant ddail ffigysbren i wneud ffedogau iddynt eu hunain. 8 A chlywsant sŵn yr ARGLWYDD Dduw yn rhodio yn yr ardd gyda hwyr y dydd, ac ymguddiodd y dyn a'i wraig o olwg yr ARGLWYDD Dduw ymysg coed yr ardd. 9 Ond galwodd yr ARGLWYDD Dduw ar y dyn, a dweud wrtho, «Ble'r wyt ti?» 10 Atebodd yntau, «Clywais dy sŵn yn yr ardd, ac ofnais oherwydd fy mod yn noeth, ac ymguddiais.» 11 Dywedodd yntau, «Pwy a ddywedodd wrthyt dy fod yn noeth? A wyt ti wedi bwyta o'r pren y gorchmynnais iti beidio â bwyta ohono?» 12 A dywedodd y dyn, «Y wraig a roddaist i fod gyda mi a roes i mi o ffrwyth y pren, a bwyteais innau.» 13 Yna dywedodd yr ARGLWYDD Dduw wrth y wraig, «Pam y gwnaethost hyn?» A dywedodd y wraig, «Y sarff a'm twyllodd, a bwyteais innau.»Dedfryd Duw 14 Yna dywedodd yr ARGLWYDD Dduw wrth y sarff: «Am iti wneud hyn, yr wyt yn fwy melltigedig na'r holl anifeiliaid, ac na'r holl fwystfilod gwyllt; byddi'n ymlusgo ar dy dor, ac yn bwyta llwch holl ddyddiau dy fywyd. 15 Gosodaf elyniaeth hefyd rhyngot ti a'r wraig, a rhwng dy had di a'i had hithau; bydd ef yn ysigo dy ben di, a thithau'n ysigo'i sawdl ef.» 16 Dywedodd wrth y wraig: «Byddaf yn amlhau yn ddirfawr dy boen a'th wewyr; mewn poen y byddi'n geni plant. Eto bydd dy ddyhead am dy ŵr, a bydd ef yn llywodraethu arnat.» 17 Dywedodd wrth Adda: «Am iti wrando ar lais dy wraig, a bwyta o'r pren y gorchmynnais i ti beidio â bwyta ohono, melltigedig yw'r ddaear o'th achos; trwy lafur y bwytei ohoni holl ddyddiau dy fywyd. 18 Bydd yn rhoi iti ddrain ac ysgall, a byddi'n bwyta llysiau gwyllt. 19 Trwy chwys dy wyneb y byddi'n bwyta bara hyd oni ddychweli i'r pridd, oherwydd ohono y'th gymerwyd; llwch wyt ti, ac i'r llwch y dychweli.» 20 Rhoddodd y dyn i'w wraig yr enw Efa, am mai hi oedd mam pob un byw. 21 A gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw beisiau crwyn i Adda a'i wraig, a'u gwisgo amdanynt. 22 Yna dywedodd yr ARGLWYDD Dduw, «Edrychwch, y mae'r dyn fel un ohonom ni, yn gwybod da a drwg. Yn awr, rhaid iddo beidio ag estyn ei law a chymryd hefyd o bren y bywyd, a bwyta, a byw hyd byth.» 23 Am hynny anfonodd yr ARGLWYDD Dduw ef allan o ardd Eden, i drin y tir y cymerwyd ef ohono. 24 Gyrrodd y dyn allan; a gosododd gerwbiaid i'r dwyrain o ardd Eden, a chleddyf fflamllyd yn chwyrlïo, i warchod y ffordd at bren y bywyd.

Beibl Cymraeg Newydd 2004

New Welsh Bible Revised Edition (Beibl Cymraeg Newydd (Argraffiad Diwygiedig)) Copyright © 1988, 2004 British and Foreign Bible Society More Info | Version Index